Craig Y Don
Y briff a gawsom gan ein cleient oedd diweddaru ei byngalo pâr a oedd angen ei adnewyddu a'i ddiweddaru'n gyffredinol, ynghyd â chegin/ystafell fwyta agored newydd i wneud y mwyaf o'r ardd ar y plot a oedd yn wynebu'r de.
Roedd y cleient ar ben ei digon gyda'r canlyniad terfynol.
Rhagor ynghylch y prosiect hwn...
I gyd-fynd â'r briff, cyflawnwyd dyluniad agored gyda nenfwd apig agored uchder llawn, goleuadau to mawr wedi'u hymgorffori â gosodion, ffitiadau ac ynys cegin o ansawdd, a gorffeniadau syml.
Gorffennwyd y tu allan i'r estyniad gyda chladin o goed cedrwydd cochion a drysau llithr alwminiwm mawr yn caniatáu byw dan do/yn yr awyr agored a mynediad rhwydd at y decin uchel a'r ardd.