Sea Shanty Café
Bwyty a chaffi hollol newydd ar gyn-safle caban a oedd yn bodoli ar y safle yn ystod yr 1970au ac 80au.
Mae'r prosiect hwn yn benllanw dros ddeng mlynedd o gynllunio gan y cleient i adfywio hanfod y caban gwreiddiol ond ar raddfa fwy.
Rhagor ynghylch y prosiect hwn...
Dechreuwyd y prosiect ddechrau 2015 ac fe'i cwblhawyd haf 2016, mae'n cynnwys lle i eistedd i 140 o bobl, parlwr hufen iâ a decin allanol, a gafodd ei estynnu a'i adnewyddu yn ddiweddar i ddarparu ardal awyr agored â tho a lle i eistedd ar ddecin yn ystod pandemig Covid-19.